Croeso

i lety hunan ddarpar Y Castell.

Ein nod yw darparu llety cyfforddus a modern, gydag ychydig o bethau y byddech chi'n dod o hyd iddyn nhw mewn gwesty ond gydag ymdeimlad cartrefol a chroesawgar. O ran lleoliad, mae castell Cricieth a Bae Tremadog yn darparu cefndir syfrdanol a dramatig, y ddau ohonynt ar ein stepen drws.

Cysylltu

Y Castell apartment bedroom

Lleoliad gwych gyda golygfeydd grêt o'r môr a'r castell. Yn gyfleus ar gyfer yr orsaf reilffordd, lan y môr a bwytai lleol. Fflat hyfryd, offer da, cawod wych.

Lleoliad gwych, eiliadau o'r traeth a dim ond ychydig funudau o ganol y dref a'r orsaf reilffordd. Nid oedd parcio ar y stryd yn broblem drwy gydol yr arhosiad. Lleoliad da iawn ar gyfer ymweld ag atyniadau lleol.

Llety


Mae'r eiddo yn dyddio'n ôl i oes Fictoria ac mae gennym ni dri fflat ar gael fel llety gwyliau. Rydym wedi adnewyddu’r adeilad yn helaeth, ac yn cynnig llety modern ond rydym wedi ceisio adfer cymaint o’r nodweddion gwreiddiol a oedd yn bosib. Cliciwch isod i wybod mwy am ein llety.

Ein Llety

Y Castell Apartment living room
Y Castell Apartment dining area

Cyfleusterau


Ein nod yw gwneud eich arhosiad mor gyfforddus ac mor ddi-drafferth â phosibl. Dysgwch fwy am yr hyn sydd gan ein llety i'w gynnig.

Ein Cyfleusterau

Lleoliad


Gyda llwybr yr arfordir ar ein stepen drws, y môr dafliad carreg i ffwrdd, ac wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae Cricieth 5 milltir o dref harbwr Porthmadog a 7 milltir o Bwllheli, rydym mewn lleoliad cyfleus a taith fer mewn car o Ben Llŷn a mynyddoedd Eryri.

 

Pethau i'w Gwneud

Criccieth coastline