Cyfleusterau
Hafan > Y Castell > Cyfleusterau
Isod mae rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am yr hyn sydd wedi'i gynnwys a'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer pob fflat:
- Tanwydd a trydan yn gynwysiedig yn y pris. Mae gwres canolog drwy'r eiddo.
- Dillad gwely a thywelion yn gynwysiedig yn y pris.
- Parcio ymyl ffordd y tu allan i'r eiddo ar sail y cyntaf i'r felin. Dim angen talu ffioedd parcio na archebu trwydded. Fel arfer mae digon o le parcio ar y stryd ger yr eiddo.
- WiFi am ddim.
- Mae pob fflat yn hunangynhwysol ac yn cwrdd â'r rheoliadau tân newydd ar gyfer eiddo hunan ddarpar.
- Lle o dan y grisiau ar y llawr gwaelod i gadw beic neu bram/bygi.
- Gofod ychwanegol yn yr iard gefn gyda giât wedi'i chloi i gadw beiciau ac offer arall.
- Cot teithio a chadair uchel ar gael.
- Yn ystod y tymor brig, mae modd cael mynediad i'r eiddo am 4.00 pm ac amser gadael yw 10.00 am. Y tu allan i'r prif dymor gwyliau, fel arfer gallwn drefnu amser mynediad cynt.
- Oherwydd oed a gosodiad yr adeilad, nid oes lifft i gael mynediad i'r llawr cyntaf a'r ail.
Rydym hefyd yn darparu'r eitemau canlynol: llieiniau sychu llestri, cynhyrchion glanhau, hylif golchi llestri, tabiau peiriant golchi llestri, cyflenwad bach o de, coffi a siwgr, olew coginio, halen, pupur, sebon, mat bath a papur toiled.