Lleoliad

Hafan > Y Castell > Lleoliad


Golygfa o Castell Criccieth wrth ymyl y traeth

Pentref arfordirol yw Criccieth tua 5 milltir o Borthmadog a 7 milltir o dref farchnad Pwllheli. Mae’n brydferth iawn gyda’r castell yn dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif, a golygfeydd o’r mynyddoedd a’r arfordir – i’r gorllewin i lawr tuag at Benrhyn Llŷn, ac i’r dwyrain gallwch weld Traeth y Graig Ddu a Harlech.

Mae ein llety wedi’i leoli ar Queens Rd, sy'n stryd dawel ychydig oddi ar Marine Terrace gyda'r môr ychydig eiliadau i ffwrdd. Gallwch gael mynediad hawdd i lwybr yr arfordir o'r llety os ydych awydd cerdded ar hyd yr arfordir i gyfeiriad Pwllheli neu fynd tua’r dwyrain tuag at draeth y Graig Ddu a Morfa Bychan.

Mae yna rywbeth at ddant pawb - heicio, cerdded, beicio, gweithgareddau dŵr a llu o safleoedd hanesyddol.  Cymerwch gipolwg ar adran 'Pethau i'w Gwneud' ar ein gwefan am fwy o fanylion.