Pethau i'w Gwneud
Hafan > Pethau i'w Gwneud
Isod mae rhestr o atyniadau a gweithgareddau yn yr ardal. Nid yw hon yn rhestr gyflawn, felly mae’n werth edrych ar y gwefannau twristiaeth lleol a Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Go North Wales yw'r wefan dwristiaeth swyddogol sy'n cwmpasu'r ardal leol.
Gweithgareddau
- Criccieth Multi Golf – maes chwarae a phytio, golff ffrisbi, chwaraeon dŵr gan gynnwys caiacio a padlfyrddio.
- Syrffio – mae yna ysgolion syrffio yn Abersoch gan gynnwys Offaxis a West Coast Surf. Mae Porth Neigwl neu Hell’s Mouth a Phorth Oer / Whistling Sands ill dau yn enwog am eu syrffio ac i’w canfod ar Benrhyn Llŷn.
- Trenau – mae digon o drenau o’r brif reilffordd i’r trenau bach cul. Yr enwocaf yw Rheilffordd Ffestiniog ac mae'r orsaf ym Mhorthmadog, lle gallwch ddal y trên i Gaernarfon neu Flaenau Ffestiniog: Rheilffordd Ffestiniog.
- Yr Wyddfa – mynydd uchaf Cymru ac mae’n debyg y prysuraf! Mae 6 llwybr i ddewis i gerdded y mynydd a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y Parc Cenedlaethol. Mae Rheilffordd yr Wyddfa hefyd yn rhedeg o Lanberis a gellir prynu tocynnau yma. Fe'ch cynghorir i gynllunio'ch taith cyn i chi gychwyn; mae'r tywydd yn gyfnewidiol a gall fod yn oer iawn hyd yn oed yn yr haf. Mae esgidiau cerdded, digon o ddillad cynnes, bwyd a dŵr yn hanfodol.
- Zip World - o linellau sip i golff tanddaearol. Mae digonedd o weithgareddau i ddewis ohonynt mewn pedwar lleoliad gwahanol o fewn taith 50 munud i Gricieth: Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Betws-y-Coed a Dolgarrog.
- Cestyll – yn frith o ganrifoedd o hanes mae gennym dipyn o gestyll yn yr ardal i ddewis ohonynt! Cricieth, Caernarfon a Harlech yw'r rhai mwyaf adnabyddus yn yr ardal. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cadw.
- Mannau hanesyddol – mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol nifer o lefydd yn yr ardal sy’n werth ymweld â nhw gan gynnwys Castell Penrhyn ym Mangor, Plas Newydd ychydig dros y bont ym Môn a Phlas yn Rhiw ym Mhen Llŷn.
- Portmeirion – pentref Eidalaidd enwog ym Minffordd lle ffilmiwyd cyfres o’r 1960au The Prisoner a hefyd yn enwog am ei bensaernïaeth. Mae ganddo ddau westy, llefydd bwyta a siopau gyda golygfeydd gwych ar draws yr aber.
- Traethau - mae digon o draethau yn yr ardal ac ar hyd Penrhyn Llŷn. Mae traeth Cricieth yn eithaf caregog gyda rhai ardaloedd tywodlyd. Mae Traeth y Graig Ddu ym Morfa Bychan yn draeth tywodlyd a’r enwocaf – a phoblogaidd – yn yr ardal. Mae traethau eraill ym Mhen Llŷn yn cynnwys: Llanbedrog, Porth Neigwl, Porth Oer (Whistling Sands), Porth Towyn a Phorth Dinllaen sy’n gartref i dafarn enwog Tŷ Coch.
Llefydd i Fwyta
O bysgod a sglodion i giniawa cain, mae digon o ddewis yng Nghricieth. Mae’n werth archebu ymlaen llaw, yn enwedig yn ystod misoedd prysur Gorffennaf ac Awst:
- Dylan’s Criccieth – bwyd i fynd neu eistedd i mewn.
- Cadwaladers – yn enwog am ei hufen iâ. Bwyd i fynd neu eistedd i mewn.
- Poachers Restaurant – bwyty poblogaidd yng Nghricieth.
- The Crab and Lemon – bwyty bwyd môr.
- Spice Bank – bwyty indiaidd.
- Castle Fish and Chip shop – yn brysur iawn yn yr Haf ond werth yr aros.
- Bwyty 51 – bwyty tapas.
- Tir a Môr - bwyty a chaffi.
- Tonnau – wedi'i leoli yng Ngwesty Tregwylan.




