Llety

Hafan > Y Castell > Llety


Y Castell 1 - Stiwdio

Y Castell 1 - Stiwdio

Fflat stiwdio llawr gwaelod clyd, sy'n cynnig lle byw cyfoes gyda gwely dwbl, soffa gyffyrddus, ardal ymlacio a bwyta, ynghyd â chegin ar wahân ac ystafell gawod fodern. Llety delfrydol i berson sengl neu gwpl i archwilio Cricieth, Porthmadog a Phen Llŷn.

Nodweddion Allweddol

  • Popeth ar y llawr gwaelod
  • Llety stiwdio cynllun agored gyda gwely dwbl, ardal fwyta a man eistedd
  • Cegin ar wahân
  • Ystafell gawod ar wahân gyda chawod, basn a thoiled.
  • Popty a hob trydan, microdon, oergell/rhewgell, teledu mawr gydag Amazon Fire Stick gyda dewis gwych o sianeli gan gynnwys Netflix a Prime Video
  • WiFi am ddim
  • Amazon Alexa
  • Y Castell 1 - Stiwdio
  • Stwidio - ystafell ymolchi
  • Stiwdio - cegin

 

Y Castell 2 - Stiwdio

Y Castell 2 - lle i hyd at 2 o bobl gysgu

Mae'r fflat hwn ar y llawr cyntaf ac mae'n cynnig llety gydag digonedd o le ar gyfer hyd at 2 o bobl. Mae'r brif ardal fyw yn gynllun agored ac mae ganddo gegin, ardal fwyta ac ardal eistedd gydag ystafell wely ddwbl ac ystafell ymolchi ar wahân. Gyda nenfydau uchel a ffenestri mawr, mae'n ofod golau ac awyrog ac yn tynnu llawer o olau'r haul yn ystod y dydd.

Nodweddion Allweddol

  • Y cyfan ar y llawr cyntaf
  • Mae prif ran y llety yn gynllun agored gydag ystafell wely ddwbl ar wahân.
  • Ystafell gawod ar wahân gyda chawod, basn a thoiled.
  • Gwres canolog nwy
  • Popty a hob trydan, microdon, oergell/rhewgell, teledu gydag Amazon Fire Stick gyda dewis gwych o sianeli gan gynnwys Netflix a Prime Video
  • Peiriant golchi llestri
  • Cegin gyda ystod da o gyfarpar coginio 
  • WiFi am ddim
  • Amazon Alexa
  • Y Castell 2 - ystafell wely dwbl
  • Y Castell 2 - ystafell wely dwbl
  • Y Castell 2 - cegin
  • Y Castell 2 - cegin
  • Y Castell 2 - ystafell ymolchi

Y Castell 3 - Stiwdio

Y Castell 3 - lle i hyd at 4 o bobl gysgu

Mae'r fflat hwn ar yr ail lawr ac yn boblogaidd gyda teuluoedd a cyplau. Ceir ystafell fyw gydag ardal fwyta ac ardal eistedd, un ystafell wely dwbl, un ystafell wely gydag 'bunks', ystafell ymolchi a chegin.  Mae'n ofod cartrefol a chyfforddus, ac yn cynnig digon o le ar gyfer pedwar o bobl. 

Nodweddion Allweddol

  • Y cyfan ar yr ail lawr. 
  • Ystafell fyw, dwy ystafell wely a chegin. 
  • Ystafell gawod ar wahân gyda chawod, basn a thoiled.
  • Gwres canolog nwy.
  • Popty a hob trydan, microdon, oergell/rhewgell, teledu gydag Amazon Fire Stick gyda dewis gwych o sianeli gan gynnwys Netflix a Prime Video.
  • Peiriant golchi llestri.
  • Peiriant golchi a sychu dillad. 
  • Cegin gyda ystod da o gyfarpar coginio 
  • WiFi am ddim.
  • Amazon Alexa.
  • Y Castell 3 - ardal bwyta
  • Y Castell 3 - ystafell wely ddwbl
  • Y Castell 3 - ystafell fyw
  • Y Castell 3 - ystafell wely efo 'bunks'
  • Y Castell 3 - cegin
  • Y Castell 3 - cyntedd